Elusen yn cynnig £20,000 i helpu datrys llofruddiaeth hanesyddol dynes o Ynys Môn, Doreen Morris, a laddwyd yn ei chartref a gafodd ei losgi
Mae'r elusen Crimestoppers yn cynnig gwobr o hyd at £20,000 am wybodaeth sy'n arwain at erlyn unrhyw un sy'n gyfrifol am lofruddiaeth hanesyddol Doreen Morris yn 1994 ar Ynys Môn.
Cafodd Mrs Morris ei llofruddio yn ei chartref dros nos ar 24 a 25 Mawrth yn 1994. Cafwyd hyd i'w gweddillion mewn ystafell wely yn ei chartref, a daethpwyd o hyd i sawl eitem a gafodd eu dwyn o'r eiddo ar draws gwahanol leoliadau yn y cyffiniau.
Cafodd yr eiddo ei roi ar dân a'r gred ydy bod rhywun wedi gwneud hyn ar ôl torri mewn drwy ddrws cefn oedd wedi cloi.
***Mae Crimestoppers yn helpu'r ymchwiliad drwy gynnig hyd at £20,000 am wybodaeth y mae'r elusen yn ei dderbyn yn unig – drwy ei gwefan www.crimestoppers-org.uk neu drwy ffonio 0800 555 111 – sy'n arwain at euogfarnu'r rhai a gysylltir â llofruddiaeth Doreen Morris yn 1994. Mae'r wobr ar gael am dri mis a bydd yn dod i ben ar 31 Hydref 2024***
Dywedodd Hayley Fry, Rheolwr dros Gymru ar gyfer elusen Crimestoppers: "'Da ni'n gwybod weithiau ei bod hi'n rhy anodd i bobl fynd at yr heddlu am yr hyn maen nhw'n ei wybod – ac mae hynny'n gallu bod am amryw resymau gan gynnwys ofn cael eu dychryn neu deyrngarwch. Fodd bynnag, mae'r achos hwn yn drasig ac, hefo chymaint o flynyddoedd wedi mynd heibio, mae perthnasau Doreen a'r gymuned ehangach yn haeddu gwybod yr hyn ddigwyddodd – a phwy oedd yn gyfrifol.
"Os 'da chi ddim eisiau siarad hefo'r heddlu, cysylltwch hefo'r elusen Crimestoppers. 'Da ni'n annibynnol ac yn gwarantu y byddwch chi'n aros 100% yn anhysbys - mae hynny'n golygu dim heddlu, dim llysoedd, dim datganiadau tyst. Dywedwch wrthym ni'r hyn 'da chi'n wybod, a dyna ni. Fe wnawn ni drosglwyddo'r neges ar eich rhan chi.
"Ffoniwch ein Canolfan Gyswllt yn y DU ar 0800 555 111 neu llenwch ffurflen ar-lein ddienw hawdd ei defnyddio ar ein gwefan ni. Ar ôl cymaint o flynyddoedd, os 'da chi wedi dal gafael ar wybodaeth a allai helpu ddod â chyfiawnder i Doreen, dyma'ch cyfle chi i unioni cam, o drasiedi, a gwneud gwahaniaeth."
***Noder: Ni fydd gwybodaeth a roddir yn uniongyrchol at yr heddlu yn deilwng am wobr***
Anhysbysrwydd: Mae Crimestoppers yn gwarantu anhysbysrwydd llwyr, sy'n golygu y gall pobl sy'n eu ffonio nhw neu gysylltu hefo nhw ar-lein drosglwyddo'r hyn maen nhw'n ei wybod heb fyth roi unrhyw fanylion personol. Nid ydy cyfeiriadau IP cyfrifiadurol byth yn cael eu holrhain. Nid ydy galwadau ffôn byth yn cael eu recordio. Ni ddangosir llinell galwr a does dim cyfleuster 1471.
Hawlio gwobr: Bydd y wobr ond yn daladwy am wybodaeth a drosglwyddwyd yn uniongyrchol i Crimestoppers ac nid i'r heddlu. Rhaid gofyn am god gwobr wrth ffonio'r elusen ar 0800 555 111. Os 'da chi'n cysylltu hefo Crimestoppers drwy'r ffurflen ar-lein yn ddienw, rhaid defnyddio'r cyfleuster 'cadw mewn cyswllt', a rhaid gofyn am god gwobr ar eich cyswllt cychwynnol chi hefo'r elusen.
Mae mwy o fanylion am y broses wobrwyo – a'r hyn sydd wrth wraidd hyn ydy sicrhau eich bod yn aros 100% yn ddienw – i'w gweld ar wefan Crimestoppers.
-DIWEDD-
Nodiadau i Olygyddion
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch Swyddfa'r Wasg Crimestoppers drwy press.office@crimestoppers-uk.org
- Daw'r gwobrau i ben ar ôl tri mis. Ni ddylid cyhoeddi'r apêl hon ar ôl 31 Hydref 2024.
- Mae Ymddiriedolaeth Crimestoppers yn elusen annibynnol sy'n cynorthwyo cymunedau i godi eu llais. Ac i gadw'n ddiogel.
- Mae ein rhif ffôn 0800 555 111 a'n gwefan Crimestoppers-uk.org yn rhoi'r grym i bobl godi eu llais a throsglwyddo gwybodaeth am drosedd yn 100% ddienw. Ers dros 35 mlynedd, 'da ni wedi cadw at yr addewid hwn.
- Ynghyd â'n hymgyrchoedd cenedlaethol mae gennym gannoedd o wirfoddolwyr ar draws y DU sy'n ein helpu i hyrwyddo ein gwasanaethau i'r rhai sydd angen clywed amdanynt.
- Mae gan bob ardal o'r DU dim Crimestoppers sy'n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o'n helusen a rhedeg ymgyrchoedd lleol am faterion sy'n effeithio eu hardal.
- Mae tua 10 o bobl yn cael eu harestio a'u cyhuddo bob dydd o ganlyniad i wybodaeth a roddir i Crimestoppers.
- Ers i Crimestoppers ddechrau yn 1988 mae wedi derbyn dros 2.2 miliwn o alwadau gweithredol a chysylltiadau ar-lein, gan arwain at dros 151,000 o arestiadau a chyhuddiadau, casglu dros £139 o eiddo wedi ei ddwyn ac atafaelu gwerth dros £367 miliwn o gyffuriau anghyfreithlon.
- Fearless ydy gwasanaeth ieuenctid elusen Crimestoppers. Mae eu gwefan nhw sef Fearless.org yn rhoi'r dewis i bobl ifanc gael cyngor anfeirniadol am drosedd ac mae'n cynnig lle diogel i drosglwyddo gwybodaeth am droseddau yn gwbl ddienw. Mae Fearless hefyd yn cynnal gweithdai mewn ysgolion ac ar gyfer grwpiau ieuenctid cymunedol, yn ogystal â darparu hyfforddiant i weithwyr ieuenctid proffesiynol yn genedlaethol.
- Yn 2005, lansiodd Crimestoppers dudalen 'UK's Most Wanted' ar ei gwefan sy'n gadael i'r cyhoedd weld lluniau o droseddwyr a rhoi gwybodaeth hanfodol ynglŷn â lle maen nhw. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn hefo dros 5,100 o arestiadau hyd yn hyn.