Gadewch i ni roi stop ar gam-drin

Rydym wedi lansio ymgyrch newydd i amlygu risg y cynnydd mewn cam-drin domestig yn ystod Cwpan pêl-droed y Byd, gan annog pobl i ‘roi stop ar gam-drin’ gan adrodd amdano mewn ffordd ddienw wrth ein helusen.

DA image

I rai pobl, mae meddwl am gêm bêl-droed yn codi ofn arnynt.  Mae nifer o bartneriaid ar bigau drain am wahanol reswm – ac nid yw hwnnw’n rheswm da – pan fydd gêm ymlaen.

CrimeStopper_Statics_Welsh1080 × 1350_1_compressed

Mae Cwpan y Byd yn ŵyl bêl-droed eiconig ac mae’n gallu dwyn cryn lawenydd pan fydd eich tîm yn ennill – a thorcalon os byddant yn colli.  Mae’n drasig nodi y bydd rhai teuluoedd wastad yn cysylltu diwrnod y gêm gyda’r anafiadau a’r trawma y bydd un o’u hanwyliaid wedi’i ddioddef oherwydd cam-drin domestig.

I nifer o ddioddefwyr, gall fod yn anodd iawn estyn allan am help neu adrodd am gamdriniaeth;  gallai adroddiad gan drydydd parti ddiogelu’r dioddefwr, gan achub bywyd hyd yn oed.

Gall ymddygiad camdriniol ddigwydd mewn unrhyw berthynas ac i unrhyw un – gwryw, benyw, oedolyn neu blentyn. Dyma rai o’r arwyddion y gallai rhywun fod yn profi camdriniaeth yn eu perthynas...

Adnabod yr arwyddion

  • Bydd eu partner yn eu bychanu o flaen pobl arall
  • Maent yn gofidio’n barhaus am wneud eu partner yn ddig neu’n grac
  • Maent yn gwneud esgusodion dros ymddygiad eu partner
  • Mae eu partner yn genfigennus neu’n feddiannol iawn 
  • Mae ganddynt farciau neu anafiadau na allant eu hesbonio
  • Maent wedi stopio treulio amser gyda ffrindiau a theulu
  • Maent yn teimlo’n isel neu’n ofidus, neu rydych chi’n sylwi ar newidiadau yn eu personoliaeth

Os oes gennych chi wybodaeth am gam-drin domestig, ac nid chi yw’r dioddefwr, gallwch ddweud wrthym yr hyn yr ydych yn ei wybod ac aros yn hollol ddienw – rydym yn addo hynny.  Yr unig un a fydd fyth yn gwybod eich bod wedi cysylltu gyda hi – fyddwch chi.

I gyfleu gwybodaeth am droseddu mewn ffordd holl ddienw, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt 24/7 yn y DU ar 0800 555 111. Neu llenwch ein ffurflen ar-lein ddiogel, yma ar ein gwefan.

Mewn argyfwng, neu os byddwch yn gweld trosedd yn digwydd, ffoniwch yr heddlu ar 999 neu 101.

Mae Crimestoppers yn addo y byddwch yn aros yn hollol ddienw, sy’n golygu bod pobl sy’n ein ffonio unrhyw bryd ar 0800 555 111 neu sy’n cysylltu â ni ar-lein yn gallu rhoi gwybod yr hyn y maent yn ei wybod, heb nodi unrhyw fanylion personol.

Ni fydd cyfeiriadau IP cyfrifiaduron fyth yn cael eu holrhain.  Ni chaiff galwadau ffôn eu recordio, nid oes cyfleuster dangos llinell y sawl sy’n galw ac nid oes cyfleuster 1471.

A ydych chi’n dioddef cam-drin domestig?

Oherwydd ein haddewid i gadw pobl yn ddienw, ni allwn gymryd gwybodaeth gan ddioddefwyr troseddau. Mewn argyfwng, dylech wastad ffonio 999.

Picture1

Os nad yw’n argyfwng ac os nad ydych yn dymuno ffonio’r heddlu, cysylltwch â Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig, sydd ar gael 24 awr y dydd, ar y rhif rhadffôn 0808 2000 247 – ac mae hon ar gael 7 niwrnod yr wythnos.  Caiff y linell gymorth ei rhedeg gan Refuge, elusen yn y DU sy’n darparu cymorth arbenigol i fenywod a phlant sy’n profi cam-drin domestig.  Mae cyfleuster sgwrsio byw ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 3 a 10pm trwy droi at www.nationaldahelpline.org.uk.

Find out more about the help & support available, both nationally and locally

Mae’r ymgyrch hwn yn datblygu ymgyrchoedd blaenorol Crimestoppers.  Dyma ddwy astudiaeth achos ddienw go iawn gan Crimestoppers, sy’n dangos sut yr oedd achos o gam-drin domestig wedi gwaethygu – a sut yr oedd gwybodaeth a roddwyd i ni yma yn Crimestoppers wedi helpu i roi stop arno:

Unigolyn risg uchel, a oedd yn cam-drin ei bartner, yn cael ei ddal ar ôl bod ar ffo am flynyddoedd

Gall effeithiau cam-drin domestig fod yn helaeth a gallant bara am oes, a chynnwys iselder, gofid, a phroblemau iechyd meddwl.  Roedd troseddwr mynych a oedd yn beryglus i fenywod wedi bod ar ffo am sawl blynedd.  Roedd wedi parhau i droseddu wrth osgoi cyfiawnder.  Diolch i wybodaeth Crimestoppers, fe’i daliwyd gan yr heddlu, a bu’n rhaid iddo wynebu canlyniadau ei weithredoedd o’r diwedd. 

Cyhuddo cyflawnydd cam-drin domestig a oedd wedi torri amodau mechnïaeth

Cafodd Crimestoppers wybodaeth am iechyd a lles unigolyn yr oedd eu partner yn torri amodau eu mechnïaeth cam-drin domestig.  Diolch i’n gwybodaeth ni, daethpwyd o hyd i’r cyflawnydd, a’i gyhuddo.

Check out our Keeping Safe domestic abuse page for more information