Siarad allan am drosedd Cymdogaeth

Siarad allan am drosedd Cymdogaeth


3

Mae troseddau cymdogaeth yn niwed cymunedol

Mae troseddau cymdogaeth yn lledaenu niwed mewn ffyrdd tawel.

Gall byrgleriaeth beri i rywun deimlo fel pe bai eu cartref wedi cael ei oresgyn, a gall yr ofn hwnnw bara am gyfnod hir ar ôl i’r difrod ffisegol gael ei drwsio. 

Gall lladrad droi llwybr cyfarwydd yn rhywle y bydd rhywun yn ei osgoi, ac ni fydd yr effaith yn stopio gydag un person.  Mae teuluoedd yn gofidio, mae ffrindiau yn addasu cynlluniau, a gall cymunedau cyfan deimlo’r effeithiau.

Gall cipio ffôn deimlo fel “dim ond dyfais” nes bydd yn arwain at risgiau bancio, straen am golli manylion personol, a cholli hyder mewn man cyhoeddus.  Pan fydd yn digwydd dro ar ôl tro yn yr un ardal, mae’n newid y ffordd y bydd pobl yn symud trwy eu stryd fawr leol.

Ac i nifer o weithwyr manwerthu, mae’r niwed yn gyson:  mae camdriniaeth yn rhywbeth y byddant yn paratoi amdano fel rhan o’r diwrnod gwaith, yn enwedig pan fyddant yn gwrthod gwerthu nwyddau y mae cyfyngiad oed arnynt, yn herio achosion o ddwyn, neu’n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Os oes gennych chi wybodaeth am rywun sy’n cyflawni troseddau, gallwch ddweud wrthym mewn ffordd hollol ddienw.  Mae ein haddewid i’ch cadw yn ddienw yn eich grymuso i godi eich llais, gan deimlo’n hyderus na fydd unrhyw un fyth yn gwybod eich bod wedi gwneud hynny.

Ffoniwch 0800 555 111 yn rhad ac am ddim neu ewch ati i lenwi ein ffurflen ar-lein:

Give information anonymously

Yr hyn y byddwch yn sylwi arno efallai (a pham ei fod yn bwysig)

Nid oes angen prawf arnoch i godi eich llais.  Pan fyddwn yn cael gwybodaeth gan wahanol bobl, hyd yn oed os bydd pob un wedi gweld rhan fach yn unig, gall hyn helpu awdurdodau i gysylltu digwyddiadau, nodi’r rhai sy’n troseddu dro ar ôl tro, a thargedu’r bobl sy’n achosi’r niwed mwyaf.

Efallai y byddwch yn sylwi ar batrymau fel:

  • Pobl yn gwerthu ffonau newydd sbon neu nwyddau drud am bris sy’n anarferol o rhad, ar-lein neu wyneb yn wyneb.
  • Yr un bobl i’w gweld dro ar ôl tro o gwmpas caffis, safleoedd trafnidiaeth, mynedfeydd siopau neu groesfannau prysur.
  • Siopau yn cael eu targedu dro ar ôl tro, gyda staff yn wynebu bygythiadau pan fyddant yn herio achosion o ddwyn.
  • Stryd benodol neu ardal fach yn dod yn fan problemus ar gyfer achosion o gipio eitemau personol, lladradau neu dorri i mewn. 

1

Dywedwch wrthym yr hyn yr ydych yn ei wybod

Pan fyddwch yn cysylltu â’n helusen, bydd y manylion mwyaf defnyddiol yn aml yn cynnwys:

  • Ble ddigwyddodd hyn (stryd, siop, safle bws, mor fanwl ag y bo modd)
  • Pryd mae’n digwydd (amseroedd, diwrnodau, patrymau ailadrodd)
  • Pwy sy’n gysylltiedig (disgrifiadau, llysenwau, dillad adnabyddadwy)
  • Cerbydau (gwneuthuriad/lliw/rhif cofrestru rhannol)
  • Sut y caiff nwyddau sy’n cael eu dwyn eu symud neu eu gwerthu (platfformau, cyfrifon, mannau cyfarfod)

O ddwyn o siop a byrgleriaeth i gipio ffonau a lladrata, mae’r troseddau hyn yn gadael creithiau dwfn.  Yn aml, bydd dioddefwyr yn dioddef trawma, bydd cymunedau yn teimlo’n llai diogel, a bydd teuluoedd, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn teimlo’r ergyd economaidd.

Ond nid dyna ddiwedd y niwed.  Yn aml, bydd y mathau hyn o droseddau yn cynnal rhwydweithiau troseddol ehangach, gan ddal pobl mewn cylchoedd o gamfanteisio, trais a niwed sy’n lledaenu ar draws cymdeithas.

Os ydych chi’n gwybod rhywbeth am rywun sy’n gysylltiedig â’r troseddau hyn, gallwch godi eich llais.  Rydym yn addo eich cadw yn hollol ddienw.  Dim heddlu, dim llysoedd, dim camau pellach, dim ond eich llais chi yn helpu i ddiogelu cymunedau.

Ffoniwch 0800 555 111 yn rhad ac am ddim neu ewch ati i lenwi ein ffurflen ar-lein:

Give information anonymously

Os byddwch yn dyst i ladrad, neu unrhyw drosedd arall sy’n digwydd, ffoniwch yr heddlu ar unwaith ar 999.

Os oes gennych chi wybodaeth am rywun sy’n cyflawni’r troseddau hyn, dywedwch wrthym mewn ffordd hollol ddienw trwy ffonio 0800 555 111, neu glicio yma i lenwi ein ffurflen ar-lein.  

A ydych chi wedi gweld rhywbeth sy’n ymwneud â throsedd yn eich stryd?  Efallai ei fod wedi eich siglo, efallai eich bod yn gwybod bod yr hyn a welsoch yn ymwneud â throsedd – neu efallai ei fod yn ymddangos yn amheus.  Nid yw byrgleriaethau a dwyn yn costio arian i chi yn unig, gallant beri gofid mawr hefyd.

Efallai y byddwch wedi bod yn dyst i ladrad mewn man cyhoeddus, ar stryd fawr, mewn bar, neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.  Os oes gennych chi wybodaeth a allai helpu i nodi pwy yw’r troseddwr(troseddwyr), gallwch helpu i ddatrys troseddau ac atal troseddau pellach trwy godi eich llais am yr hyn yr ydych yn ei wybod.

Cysylltwch â’n helusen a gallwch aros yn ddienw, ar-lein yma ar ein gwefan, neu dros y ffôn trwy ffonio 0800 55 111, 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn, yn rhad ac am ddim.

Give information anonymously

Rydym wedi cadw ein haddewid i gadw pobl yn ddienw ers i ni gael ein sefydlu ym 1988.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw cymunedau yn ddiogel.


Os ydych chi yn neu os byddwch chi wedi bod yn ddioddefwr unrhyw un o’r troseddau hyn:

  • Mewn argyfwng, dylech wastad ffonio 999.
  • Os nad yw’n argyfwng, gallwch gysylltu â’r heddlu ar 101.
  • Gall Cymorth i Ddioddefwyr eich cynorthwyo os byddwch wedi dioddef trosedd, er mwyn eich helpu i ymdopi gydag effeithiau trosedd neu ddigwyddiad trawmatig.  Maent hefyd yn hyrwyddo hawliau dioddefwyr, gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni yn y system cyfiawnder troseddol.  Gallwch gysylltu â nhw ar-lein, neu trwy ffonio 08 08 16 89 111.