Dy bleidlais di a neb arall

Dy bleidlais di a neb arall

April 2025

Rhoi gwybodaeth yn ddienw

Dy bleidlais di a neb arall. P'un a wyt yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, drwy'r post neu drwy ddirprwy, dy benderfyniad di yw hwn.

Mae'n anghyfreithlon i unrhyw un ddylanwadu arnat i bleidleisio yn erbyn dy ewyllys, gan gynnwys partner, aelod o'r teulu neu ffrind.
 

Beth yw twyll etholiadol?

Gall twyll etholiadol ddigwydd ar sawl ffurf wahanol, gan gynnwys:
 

Dylanwad Gormodol

Ni all unrhyw un dy ddychryn i bleidleisio mewn ffordd benodol, drwy dy fygwth, dy anafu neu achosi difrod neu niwed er enghraifft.
 

Llwgrwobrwyo

Mae'n anghyfreithlon llwgrwobrwyo drwy gynnig arian neu roddion, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, er mwyn dy ddarbwyllo i bleidleisio mewn ffordd benodol neu i beidio â phleidleisio o gwbl.
 

Cambersonadu

Ni chaiff neb esgus mai ti ydyn nhw i ddefnyddio dy bleidlais, p'un a yw'n bleidlais bost neu yn yr orsaf bleidleisio. Yn ogystal â hyn, ni chaiff neb bleidleisio drwy esgus bod yn rhywun sydd wedi marw neu'n rhywun nad yw'n bodoli o gwbl.
 
 

Gwneud cais i bleidleisio drwy dwyll

Mae'n anghyfreithlon gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy neu bleidlais bost gan ddefnyddio manylion ffug neu drwy dwyll.
 

Gofyn i ti ddangos dy bapur pleidleisio wedi'i gwblhau

Mae'n drosedd i rywun dy ddarbwyllo yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i ddangos dy bapur pleidleisio ar ôl i ti ei gwblhau er mwyn iddo weld dros bwy rwyt ti wed pleidleisio.


 

Mathau eraill o dwyll etholiadol

 
Pleidleisio ddwywaith yn yr un etholiad
Mae'n anghyfreithlon pleidleisio ddwywaith yn yr un etholiad, oni bai dy fod yn:
  • Pleidleisio dy hun ac fel dirprwy i rywun os byddi di wedi cael dy benodi'n ffurfiol i bleidleisio ar ei ran.
  • Pleidleisio mewn etholiad mewn mwy nag un awdurdod lleol os wyt ti'n byw ac wedi dy gofrestru i bleidleisio mewn mwy nag un awdurdod lleol.
Ymyrryd â phapurau pleidleisio   
Mae'n anghyfreithlon dileu, addasu neu ymyrryd â phapurau pleidleisio a phecynnau pleidleisio drwy'r post.
 

Darllen mwy am dwyll etholiadol

Oes hawl gennyt i bleidleisio ar ran ffrind? A yw'n anghyfreithlon llwgrwobrwyo neu gynnig cymhellion i bleidleisio mewn ffordd benodol?

Mae blog y Comisiwn Etholiadol Dy bleidlais di a neb arall yn ateb dy gwestiynau ac yn nodi'r ffeithiau.
 

Wedi gweld achosion o dwyll etholiadol?

Os bydd rhywun yn ceisio defnyddio pleidlais rhywun rwyt ti'n ei adnabod, ffonia ni yn ddienw ar 0800 555 111 neu rho wybod amdano ar-lein yn gwbl ddienw.

Noder: Os byddi di'n llenwi'r ffurflen ar-lein, cofia ddewis 'Twyll' fel y math o drosedd a nodi 'Twyll Etholiadol' yn y blwch testun gwag ar gyfer cwestiwn 1.

 

Rhoi gwybodaeth yn ddienw