Parthau Crimestoppers: codwch eich llais am droseddu yn eich cymuned – yn hollol ddienw

Mae Crimestoppers Cymru yn lansio naw Parth Crimestoppers newydd ar draws Cymru.
Cynlluniwyd Parthau Crimestoppers i rymuso cymunedau i godi eu llais am droseddu sy’n effeithio ar yr ardaloedd lle y maent yn byw. Maent yn ffordd weladwy o atgoffa pobl bod gan bawb rôl i’w chyflawni wrth gadw eu cymdogaeth yn ddiogel, a’ch bod yn gallu rhannu gwybodaeth gyda ni mewn ffordd hollol ddienw.

Nid ni yw’r heddlu. Rydym yn elusen annibynnol. Ni fyddwn yn gofyn am eich enw. Ni fyddwn yn olrhain eich galwad. Ni fyddwn yn olrhain eich cyfeiriad IP. Bydd yr hyn y byddwch yn ei ddweud wrthym yn cael ei drosglwyddo i’r heddlu perthnasol mewn ffordd ddiogel, heb i unrhyw un wybod ei fod wedi dod wrthych chi.
Beth allwch chi adrodd amdano?
Gallwch gysylltu â Crimestoppers am ystod eang o droseddau a phryderon, gan gynnwys:
- Delio cyffuriau a gweithgarwch llinellau sirol
- Troseddu cyfundrefnol a chamfanteisio
- Bod rhywun yn defnyddio neu’n cario arfau
- Trais ac ymosodiadau difrifol
- Bwrgleriaeth a throseddau cerbydau
- Camfanteisio ar bobl agored i niwed

Os nad oes rhywbeth yn teimlo’n iawn yn eich ardal, gallwch godi eich llais. Gall darnau bychain o wybodaeth hyd yn oed helpu i greu darlun mwy.
Pam bod Parthau Crimestoppers yn bwysig
Mae Parthau Crimestoppers mewn ardaloedd lle y mae cymunedau wedi dweud wrthym bod troseddu yn cael gwir effaith. Trwy gynyddu’r ymwybyddiaeth o’r cyfle i adrodd yn ddienw, ein nod yw datblygu gwybodaeth mewn ardaloedd lle y gwelir niwed uchel a thanadrodd.
Pan fydd mwy o bobl yn teimlo’n hyderus i rannu’r hyn y maent yn ei wybod, mae hynny’n helpu’r heddlu a’u partneriaid i weithredu. Gall hyn arwain at arestiadau, diogelu pobl agored i niwed, tarfu ar droseddu cyfundrefnol a gwelliannau amlwg yn lleol.
Nid arwyddion ar bolion lampau yn unig yw’r rhain. Maent yn rhan o ymrwymiad ehangach i weithio gyda phartneriaid lleol, grwpiau cymunedol, darparwyr tai a chynghorau i gryfhau hyder y gymuned ac annog pobl i ddefnyddio’r gwasanaeth dienw.
Parthau newydd Crimestoppers
Lleolir y naw Parth newydd sy’n cael eu lansio ar draws Cymru, yn:
- Trelái, Caerdydd
- Llanedeyrn, Caerdydd
- Tyshia, Llanelli, a Glan-y-môr Caerfyrddin
- Pum Parth ar draws Castell-nedd Port Talbot
Datblygwyd pob Parth mewn partneriaeth â rhanddeiliaid lleol er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol ac yn cefnogi gwaith lleihau troseddu ehangach sydd eisoes yn digwydd.
18 February 2026